Prentis Gwybodaeth Gofal Cymdeithasol – Dechrau Gyrfa
Barry
Mae gan Gyngor Bro Morgannwg gyfle arbennig i ddechrau eich gyrfa mewn tîm cefnogol trwy brentisiaeth Gwybodaeth Gofal Cymdeithasol.
Mae hwn yn cyfle cyffrous i ddechrau eich gyrfa mewn tîm cefnogol a chyfeillgar wrth ennill cymhwyster cydnabyddedig. Fel Prentis Gwybodaeth Gofal Cymdeithasol, byddwch yn datblygu sgiliau gweinyddol, cyfathrebu a digidol gwerthfawr wrth helpu teuluoedd a gweithwyr proffesiynol i gael gafael ar wybodaeth a gwasanaethau cymorth pwysig.
Byddwch yn cwblhau cymhwyster perthnasol ochr yn ochr â'ch rôl o ddydd i ddydd, gan ennill profiad ymarferol a datblygu’n broffesiynol ar hyd y ffordd.
Yn y rôl hon, byddwch yn helpu i redeg y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd o ddydd i ddydd, yn ymateb i ymholiadau gan deuluoedd, gofalwyr, gweithwyr proffesiynol a sefydliadau partner dros y ffôn, e-bost a sianeli digidol.
Byddwch yn cynnal ac yn diweddaru gwybodaeth am wasanaethau lleol gan ddefnyddio gwefan Dewis Cymru. Byddwch yn cysylltu â sefydliadau a darparwyr gwasanaeth i adolygu a chadarnhau cywirdeb gwybodaeth.
Byddwch yn cefnogi'r Mynegai ar gyfer Plant a Phobl Ifanc ag Anableddau neu Anghenion Ychwanegol trwy brosesu cofrestriadau ac adolygu gwybodaeth gyda theuluoedd. Byddwch yn helpu gyda chreu a diweddaru cylchlythyrau, cynnwys gwefan, canllawiau gwybodaeth ac adnoddau digidol.
Yn ogystal, byddwch yn datblygu hyder gan ddefnyddio ystod o systemau digidol, cronfeydd data ac offer cyfathrebu, tra’n darparu cymorth gweinyddol sy’n helpu'r tîm i ddarparu gwasanaeth effeithlon ac ymatebol.
Mae'r brentisiaeth hon yn darparu llwybr datblygu clir, gyda chyfleoedd i feithrin sgiliau a symud ymlaen i rolau mwy arbenigol neu lefel uwch yn y dyfodol.
Ydych chi'n awyddus i ddechrau eich gyrfa mewn rôl gefnogol lle gallwch ddysgu, tyfu a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol?
Rydym yn cynnig cyfle cyffrous i ymuno â'n Tîm Gwybodaeth Gofal Cymweddol fel Prentis. Byddwch yn ennill profiad ymarferol ar draws ystod eang o weithgareddau gweinyddol a gwasanaeth cwsmeriaid tra’n gweithio tuag at gymhwyster cydnabyddedig.
Ar ôl cwblhau'r brentisiaeth a'r cymhwyster yn llwyddiannus, efallai y bydd cyfle i symud ymlaen i rôl Hyfforddai/Gweinyddwr o fewn y tîm, yn amodol ar berfformiad, ymddygiad ac argaeledd rôl addas. Mae hon yn brentisiaeth tymor penodol am 18 mis, sy’n darparu sgiliau a phrofiad gwerthfawr i’ch helpu i ddatblygu eich gyrfa.
Yng Nghyngor Bro Morgannwg, rydym wedi ymrwymo i'ch cefnogi i ddatblygu eich sgiliau, eich hyder a'ch gyrfa yn y dyfodol, ni waeth o ble rydych chi'n dechrau.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:
Lyndsey Richards
Gweler y disgrifiad swydd a’r fanyleb person ynghlwm am ragor o wybodaeth.
#J-18808-Ljbffr
Full job description from WhatJobs. Apply for this role →
Barry
Mae gan Gyngor Bro Morgannwg gyfle arbennig i ddechrau eich gyrfa mewn tîm cefnogol trwy brentisiaeth Gwybodaeth Gofal Cymdeithasol.
Barry
Mae hwn yn gyfle cyfnod penodol o ddwy flynedd i gryfhau cynllunio strategol y gweithlu ar draws ysgolion y Fro a helpu i ddatblygu dulliau a fydd…
Wrexham
Ydych chi'n barod i ddefnyddio'ch sgiliau i ysbrydoli a chefnogi pobl wrth iddyn nhw gymryd eu camau nesaf tuag at addysg, hyfforddiant neu…
Cardiff
Ym Met Caerdydd, rydym wedi ymrwymo i ddarparu profiad myfyrwyr rhagorol trwy ddarparu gwasanaethau rhagorol, gweinyddiaeth effeithiol a data o…
Barry
Oriau Gwaith / Patrwm Gwaith: 23 awr yr wythnos.
Carmarthen
Rydyn ni'n creu dyddiau mwy disglair. Heriau ffres. Cyfleoedd cyffrous. Digon o ups, downs, a curveballs.
Worked with Verifera as a candidate or employer? Your honest review helps the next person trust verified hiring.