Strategic Workforce Planning Lead (2-Year Contract)
Barry
Vale of Glamorgan yn chwilio am weithredwr cynllunio gweithlu Gradd 9 ar gyfer contract cyfnod penodol o ddwy flynedd.
Mae hwn yn gyfle cyfnod penodol o ddwy flynedd i gryfhau cynllunio strategol y gweithlu ar draws ysgolion y Fro a helpu i ddatblygu dulliau a fydd yn cefnogi penderfyniadau gwell am y gweithlu yn y tymor hwy.
Byddwch yn dod â gwybodaeth am y gweithlu, cyllid, demograffeg, addysg a’r farchnad lafur ynghyd i helpu ysgolion i ddeall beth sy’n newid, ble gall risgiau’r dyfodol godi a pha gamau sydd eu hangen nawr.
Mae’r rôl yn mynd ymhell y tu hwnt i ddata’r gweithlu. Byddwch yn gweithio gyda phenaethiaid, cyrff llywodraethu ac uwch arweinwyr addysg i ystyried sut y gallai rolau, sgiliau a strwythurau ddatblygu, gan ddefnyddio’r egwyddor o ddylunio’r gwaith cyn dylunio’r swyddi .
Byddwch yn helpu i gryfhau cynllunio olyniaeth, talent a llwybrau gyrfa, gan gynnwys datblygu gweithlu cyfrwng Cymraeg cynaliadwy, ac yn cyfrannu at bolisïau pobl a’r gweithlu ar draws ysgolion a chyrff llywodraethu.
Bydd y ffordd rydych yn gweithio yr un mor bwysig. Nid dweud wrth ysgolion sut dylai eu gweithlu edrych fydd eich rôl. Byddwch yn helpu arweinwyr i ofyn cwestiynau gwell, deall y dystiolaeth, ystyried gwahanol opsiynau a gwneud penderfyniadau gwybodus.
Weithiau bydd hynny’n golygu herio ffordd sefydledig o feddwl neu gefnogi penderfyniadau anodd. Rydym yn chwilio am rywun sy’n gallu cyfuno tystiolaeth ag empathi, her adeiladol â pherthnasoedd cryf, ac anghenion y sefydliad â dealltwriaeth o’r bobl yr effeithir arnynt .
Bydd eich effaith yn dod drwy eich arbenigedd, eich barn broffesiynol, eich gallu i hwyluso a’ch dylanwad, gan helpu i feithrin gallu cynllunio’r gweithlu ar draws ein hysgolion yn hytrach na dibyniaeth ar un rôl.
Mae hon yn rôl Gradd 9 (£43,149–£47,665) ar gontract cyfnod penodol o ddwy flynedd .
Mae’r rôl yn 37 awr yr wythnos gyda gweithio hyblyg . Eich prif leoliad gwaith fydd y Swyddfeydd Dinesig yn y Barri, gyda chyfleoedd i weithio o bell lle bo’n briodol.
Fodd bynnag, mae hon yn rôl sy’n gweithio ar draws ein hysgolion yn y Fro . Mae meithrin perthnasoedd o ymddiriedaeth gyda phenaethiaid, cyrff llywodraethu ac arweinwyr ysgolion yn rhan ganolog o’r rôl, ac rydym yn disgwyl i ddeiliad y swydd dreulio amser mewn ysgolion ledled y Fro , gan ddeall eu gwahanol gyd-destunau, heriau gweithlu ac anghenion y dyfodol. Bydd adegau hefyd pan fydd angen mynd i gyfarfodydd neu weithio mewn lleoliadau eraill y Cyngor.
Byddwch yn cael mynediad at fanteision gweithio i Gyngor Bro Morganny , gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, gwyliau blynyddol hael, cyfleoedd dysgu a datblygu, cymorth llesiant a rhwydweithiau staff .
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ond nid ydynt yn hanfodol . Fodd bynnag, bydd angen i chi ddeall pwysigrwydd datblygu capasiti cynaliadwy ar gyfer y gweithlu cyfrwng Cymraeg a bod yn ymrwymedig i gefnogi’r gwaith hwn.
21 Hydref 2026
9 Tachwedd 2026
#J-18808-Ljbffr
Full job description from WhatJobs. Apply for this role →
Barry
Vale of Glamorgan yn chwilio am weithredwr cynllunio gweithlu Gradd 9 ar gyfer contract cyfnod penodol o ddwy flynedd.
Barry
Mae hwn yn cyfle cyffrous i ddechrau eich gyrfa mewn tîm cefnogol a chyfeillgar wrth ennill cymhwyster cydnabyddedig.
Cardiff
Er mwyn cefnogi ‘r gwaith o ddarparu cymorth technegol i'r sector gweithgynhyrchu bwyd a diod yng Nghymru, rydym yn chwilio am ddau weithiwr…
Cardiff
Er mwyn cefnogi ‘r gwaith o ddarparu cymorth technegol i'r sector gweithgynhyrchu bwyd a diod yng Nghymru, rydym yn chwilio am ddau weithiwr…
Wrexham
Ydych chi'n barod i ddefnyddio'ch sgiliau i ysbrydoli a chefnogi pobl wrth iddyn nhw gymryd eu camau nesaf tuag at addysg, hyfforddiant neu…
Wales
Rydyn ni'n chwilio am weithiwr proffesiynol rhagweithiol a phrofiadol ym maes Adnoddau Dynol i ymgymryd â rôl Partner Busnes Adnoddau Dynol…
Worked with Verifera as a candidate or employer? Your honest review helps the next person trust verified hiring.