Partner Busnes Adnoddau Dynol – Projectau, Pob Safle Amgueddfa Cymru
Wales
Rydyn ni'n chwilio am weithiwr proffesiynol rhagweithiol a phrofiadol ym maes Adnoddau Dynol i ymgymryd â rôl Partner Busnes Adnoddau Dynol…
Yn rhinwedd eich swydd fel gweithiwr proffesiynol adnoddau dynol uchaf Amgueddfa Cymru, byddwch yn arwain y gwaith o lunio cyfeiriad strategol a chyflawni gwaith adnoddau dynol sy'n canolbwyntio ar y cyflogeion ar draws y sefydliad. Byddwch yn arwain y gwaith o ddatblygu a chyflawni’n strategaethau Adnoddau Dynol, Datblygu Pobl a Chydraddoldeb, yn ogystal â gwella’n prosesau pobl yn barhaus, er mwyn sicrhau bod gennym y nifer cywir o bobl, gyda'r wybodaeth, y sgiliau a'r profiad cywir i gyflawni Gweledigaeth Amgueddfa Cymru.
Byddwch yn rhoi cyngor ac arweiniad dibynadwy i'r Uwch Dîm Gweithredol (SET) ar yr ystod lawn o faterion adnoddau dynol a datblygu sefydliadol cymhleth a rheolaidd. Byddwch yn chwarae rôl allweddol wrth helpu i ddarparu gwasanaethau adnoddau dynol arloesol yn llwyddiannus, a’r rheiny'n canolbwyntio ar y defnyddwyr ac yn gost-effeithiol.
Mae'r swydd hon yn rôl strategol allweddol o fewn Amgueddfa Cymru, a byddwch yn gweithio fel rhan o Fforwm Arweinwyr yr Amgueddfa i gyfrannu at ddatblygiadau ar draws y sefydliad.
Byddwch hefyd yn arwain yr holl weithrediadau adnoddau dynol ar gyfer gweithlu o dros 600, mewn wyth safle ledled Cymru. I gyflawni hyn, byddwch yn rheoli tîm o Bartneriaid Busnes a gweinyddwyr adnoddau dynol sy'n cefnogi holl safleoedd a holl feysydd gweithgarwch yr Amgueddfa.
#J-18808-Ljbffr
Full job description from WhatJobs. Apply for this role →
Wales
Rydyn ni'n chwilio am weithiwr proffesiynol rhagweithiol a phrofiadol ym maes Adnoddau Dynol i ymgymryd â rôl Partner Busnes Adnoddau Dynol…
Cardiff
Yn rhinwedd eich swydd fel gweithiwr proffesiynol adnoddau dynol uchaf Amgueddfa Cymru, byddwch yn arwain y gwaith o lunio cyfeiriad strategol a…
Cardiff
Bydd yr Arweinydd Brand ac Ymgyrchoedd yn datblygu ac yn cyflawni ymgyrchoedd creadigol ac effeithiol sy'n ymhelaethu ar frand a gwaith Amgueddfa…
Caerdydd
Yn rhinwedd eich swydd fel gweithiwr proffesiynol adnoddau dynol uchaf Amgueddfa xwwtmva Cymru, byddwch yn arwain y gwaith o lunio cyfeiriad…
Cardiff
Amgueddfa Cymru – Museum Wales yn recriwtio Pennaeth Adnoddau Dynol i arwain cynllun strategol Adnoddau Dynol, Datblygu Pobl a Chydraddoldeb ar…
Cardiff
Amgueddfa Cymru – Museum Wales yn recriwtio Pennaeth Adnoddau Dynol i arwain cynllun strategol Adnoddau Dynol, Datblygu Pobl a Chydraddoldeb ar…
Explore: HR Advisor jobs in Cardiff HR Advisor jobs in the UK Specialist jobs in Cardiff
Worked with Verifera as a candidate or employer? Your honest review helps the next person trust verified hiring.