Read more

Y Felinheli Source: WhatJobs
See advert for pay

Lleoliad: Y Felinheli, Gwynedd

Oriau: 37.5 awr yr wythnos (llawn amser)

Cofiwch :Ni allwn ystyried ymgeiswyr gyda Fisa Gweithiwr Medrus neu Fisa Myfyriwr ac ni allwn gynnig nawdd ar gyfer y rôl hon.

Mae’r Iaith Gymraeg yn Hanfodol

Diwrnodau Anhygoel, Pob Dydd

Yn CareTech, credwn mewn creu Diwrnodau Anhygoel, Pob Dydd. Fel darparwr blaenllaw o gymorth person-ganolog, grymuswn oedolion ag anghenion cymhleth i wneud eu dewisiadau bywyd eu hunain, magu hyder a dod yn fwy annibynnol, a byw bywydau llawn yn eu cymuned.

Rydym yn chwilio am Arweinydd Tîm profiadol ac ymroddedig i ymuno â’n gwasanaeth yn y Felinheli, Gwynedd, i gefnogi oedolion gydag awtistiaeth, anableddau dysgu, cyflyrau iechyd meddwl ac anghenion niwrolegol ar draws Gogledd Cymru.

Os ydych yn teimlo’n gryf am arwain eraill, darparu gofal o ansawdd uchel, a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl, byddem yn falch iawn o glywed gennych.

Amdan y Gwasanaeth

Mae Complete Care & Enablement yn rhoi cymorth arbenigol i unigolion sy’n byw yn eu cartrefi eu hunain ac mewn tai a llety cymorth ledled Gogledd Cymru.

Mae ein gwasanaethau’n amrywio o wasanaeth llety cymorth 24 awr i allgymorth, gan helpu pobl i ddatblygu sgiliau bywyd, cadw eu tenantiaeth, dod yn fwy annibynnol a byw’r bywyd y maent yn dewis ei fyw gydag urddas, parch a hyder.

Fel Arweinydd Tîm, bydd gennych rôl allweddol mewn sicrhau bod ein timau’n parhau i ddarparu cymorth person-ganolog rhagorol gan rymuso’r bobl a gefnogwn i gyflawni eu amcanion bywyd.

Fel Arweinydd Tîm, byddwch yn:

  • Arwain, cefnogi a goruchwylio staff cymorth
  • Hwyluso cyfarfodydd tîm a sesiynau goruchwylio staff
  • Cyfrannu at ac adolygu cynlluniau cymorth person-ganolog
  • Cefnogi’r Rheolwr Gwasanaeth gydag archwiliadau llywodraethu a sicrhau ansawdd
  • Helpu i reoli’r rota, dyrannu shifftiau a threfnu staff i lenwi mewn ar gyfer gwyliau blynyddol a hyfforddiant
  • Cefnogi unigolion a’u teuluoedd i wneud dewisiadau gwybodus am ofal ac annibyniaeth
  • Hyrwyddo Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol (PBS) ar draws y gwasanaeth
  • Hyrwyddo safonau gofal, diogelwch a chydymffurfio uchel
  • Arwain drwy esiampl ac ysgogi timau i ddarparu canlyniadau eithriadol

I lwyddo yn y rôl hon, bydd gennych:

  • Profiad blaenorol o weithio mewn amgylchedd gofal, preswyl neu lety cymorth
  • Profiad o arwain neu oruchwylio timau gofal
  • Cymhwyster lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (neu dystiolaeth o weithio tuag ato)
  • Profiad o gefnogi oedolion ag awtistiaeth
  • Profiad o gefnogi oedolion ag anableddau dysgu
  • Gallu cyfathrebu’n effeithiol yn Gymraeg
  • Sgiliau cyfathrebu ac ysgrifenedig rhagorol
  • Galluoedd arweinyddiaeth a threfniadaeth cryf
  • Agwedd dawel a gwydn dan bwysau
  • Argyhoeddiad diffuant i wella bywydau pobl eraill

Pam ymuno â CareTech?

Gwerthfawrogwn ein cydweithwyr a chynigiwn ystod o fanteision i gefnogi eich lles, datblygiad a’ch cynnydd gyrfaol.

Disgowntiau Cerdyn Golau Glas

  • Ad-daliad o ffioedd cofrestru Gofal Cymdeithasol Cymru
  • Gwiriad DBS am ddim
  • Rhaglen Cymorth i Weithwyr am ddim
  • Manteision gweithwyr “safon diwydiant”
  • Cyfleoedd parhaus i ddysgu a datblygu
  • Llwybrau cynnydd gyrfaol clir
  • Grantiau Sylfaen CareTech i deulu a ffrindiau

*Mae telerau ac amodau’n berthnasol Talwn y bonysau ar ôl i chi gwblhau cyfnod prawf o chwe mis yn llwyddiannus.

Mae popeth a wnawn yn seiliedig ar ein gwerthoedd:

Cyfeillgar

Wedi’i sefydlu yn 1993, CareTech yw un o brif dd

#J-18808-Ljbffr

Full job description from WhatJobs. Apply for this role →

Back to all jobs

Help others hire with confidence

Reviews on Trustpilot

Worked with Verifera as a candidate or employer? Your honest review helps the next person trust verified hiring.